Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Peintiad
Bu Piper yn arbrofi â ffurfiau a lliwiau mewn cyfansoddiadau haniaethol rhwng 1934 a 1938. Dangoswyd y llun hwn ym 1936 yn 'Axis', cylchgrawn ar gelfyddyd haniaethol yr oedd ei wraig, Myfanwy, yn olygydd arno ar y pryd. Yn yr un flwyddyn, dywedodd Piper ei fod yn gobeithio y deuai celfyddyd haniaethol yn 'eglur ac yn boblogaidd, heb fod yn uchelael o gwbl'. Ar ôl rhoi'r gorau i dynnu lluniau haniaethol a throi at dirluniau neo-ramantaidd, penderfynodd mai 'ymarferiadau' oedd y lluniau cynnar hynny.