Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r portread anghyffredin hwn o long ar ddeilen yn unigryw ymhlith casgliad yr Amgueddfa. Cafodd ei ddarganfod yng nghanol dalennau Beibl ym 1982. Mae lliwiau cwmni Morel Ltd. o Gaerdydd ar y stemar sydd arni. Mae'n debyg mai'r diweddar Gapten Samuel Jenkins o Aberporth, a beintiodd y llun. Gwasanaethodd ar long SS Cardiff, cwmni Morel, am bymtheg mis pan ddechreuodd hwylio'r moroedd mawr ym 1909. Bu ar dair mordaith wahanol gyda'r llong arbennig yma - i Asia, Gogledd a De America - felly gallai'r ddeilen fod wedi dod o unrhyw un o'r llefydd hynny.