Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tenby
Er mai Dinbych-y-pysgod yw tref glan môr mwyaf adnabyddus Cymru heddiw, o bosib, ni ddaeth yn enwog tan ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r darluniau ffres a byw hyn yn darlunio porthladd tawel a thraethlin annatblygedig, a ffigurau’r gweithwyr. Francis Place oedd un o’r artistiaid Prydeinig cyntaf i arbenigo mewn tirlunio. Daeth yma ym 1678 ac mae’r darluniau hyn ymhlith y delweddau cynharaf o Gymru a wnaed yn y fan a’r lle.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.