Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Atebion i holiadur Amgueddfa Genedlaeyhol Cymru o 1937 ar ddiwylliant gwerin Cymru gan Mrs Winifred Margaret Coombe- Tennant (1 Tachwedd 1874 - 31 Awst 1956). Roedd Mrs Coombe-Tennant yn Etholfreintiwr, Gwleidydd Rhyddfrydol, Dyngarwraig ac yn gefnogol o ddiwylliant diwylliannol Cymru. Roedd hefyd yn cael ei adnabod gan ei enw barddol sef 'Mam o'r Nedd'. Mae'r wybodaeth sydd yn cael ei rhoi ganddi yn sôn am ardaloedd Castell Nedd ac Abertawe yn benodol, ac yn trafod tŷ bonheddig yn Ynysygerwen, Castell Nedd, yn ogystal a manylion domestig eraill. Mae ganddi nodiadau hefyd ar luoedd arfog, trafnidiaeth, llên gwerin, crefftau, meddyginiaeth traddodiadol a cherddoriaeth.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.