Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pig ornament
Addurn mochyn, dyddiedig ‘1803’, ond fe’i gwnaed gan Edwin Jenkins yn Ewenni tua diwedd y 1800au fwy na thebyg.
Mae hanes hir o greu crochenwaith yn Ewenni, Bro Morgannwg. Roedd yr holl ddeunydd crai wrth law – clai coch, deunyddiau gwydro i’w gorffen, cerrig i adeiladu’r odynnau a glo i danio’r crochenwaith. Dros y blynyddoedd, mae 15 crochendy wedi bod yn yr ardal. Dim ond dau sydd yno erbyn heddiw. Mae un teulu, y teulu Jenkins, wedi parhau â’r traddodiad am 8 cenhedlaeth a mwy.