Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ar lethrau Cader Idris, ar lannau Llyn Cau, saif dinas newydd. Yn y cefndir mae llais yn adrodd hanes ei hadeiladu ac uchelgais ei phensaer. Yn y ffilm hon mae Bedwyr Williams yn efelychu gwawr paentio tirluniau y 18fed ganrif mewn dyfodol cyfagos. Mae ‘Y Tyrrau Mawr’ yn trafod pryderon cenedlaethol a rhyngwladol am drefoli a theilwra cymdeithasol mewn dinasoedd modern.
Llun llonydd o waith celf fideo yw hwn. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.