Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Gibson yn cofnodi iddo 'dreulio'r rhan fwyaf o'r gaeaf ym 1859 yn modelu grwp i gynrychioli'r hyn a welais yn y stryd ychydig flynyddoedd yn ôl, pan wneuthum fraslun o'r hyn oedd yn digwydd - sef merch tua phedair ar ddeg oed yn taflu plentyn i fyny i'r awyr ac yn ei gusanu. Bum yn gweithio ar y model clai hwn am dri mis.' Mae'r mynegiant digymell o hoffter a welodd Gibson wedi ei gyfleu fel grwp gydag ymatal lluniaidd sy'n addas i Ferch Ifanc a Ciwpid y byd Clasurol. Cafodd y darn hwn ei gerfio i William Robertson Sandbach o Neuadd Hafod Unnos ger Abergele. Prynwyd fersiwn arall gan Dywysog Cymru, sef Edward VII wedyn, a fu yn stiwdio Gibson yn Rhufain ym 1859 a 1862.