Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ag yntau'n ddylunydd cywrain ac yn lliwiwr gwych, roedd agwedd John at gelfyddyd fodern yn amwys. Roedd yn edmygu Cézanne, Van Gogh a Gaugin, a chaseid y paneli olew a arddangoswyd ganddo yn Oriel Chenil, Chelsea, ym 1910, gan y rhai mwyaf traddodiadol. Fodd bynnag, gwrthododd John gael ei gynnwys yn yr Ail Arddangosfa ôl-Argraffiadol yn Llundain ym 1912-13, er bod ganddo waith ym 1913 yn Sioe Armory yn Efrog Newydd, a oedd yn llawer mwy eang. Gwelwyd sawl un o'i weithiau hefyd yn 'An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction', a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913-14.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales