Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Ferch o Baris
Ym 1874 cynhwyswyd y darlun hwn yn yr Arddangosfa Argraffiadol gyntaf. Madame Henriette Henriot, a fu'n actio yn yr Odéon yn 1863-68, yw'r gwrthrych. Byddai Renoir yn aml yn ei defnyddio fel model. Drwy roi i'r darlun y teitl 'Y Ferch o Baris', mae'n awgrymu ei bod yn cynrychioli math o berson yn hytrach na pherson penodol. Meddai un o adolygwyr arddangosfa 1874: 'Prin y gellir gweld blaen ei hesgid uchel, sy'n ymwthio allan fel llygoden fach ddu. Mae ei het yn gwyro dros un glust ac mae'n fentrus o bowld...Ffug yw'r wân, ac mae'r wyneb yn gymysgedd o hen a phlentynnaidd. Ond mae yna rywbeth yn naîf ynddi. Cawn yr argraff fod y ferch yma'n ymdrechu'n galed i edrych yn barchus. Mae'r wisg, sydd wedi ei pheintio'n fendigedig, mewn glas o liw nefolaidd.' Arferai'r gwaith fod yng nghasgliad enwog Henri Rouart, a phrynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1913.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.