Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rue Terre Neuve, Meudon
Rue Terre Neuve, Meudon yw’r olygfa hon, ac mae’n bosib mai dyma oedd yr olygfa o ystafell yr artist ar y stryd honno. Mae testunau paentiadau olew Gwen John yn eithaf cyfyngedig, yn bortreadau o fenywod ac ystafelloedd yn bennaf. Fodd bynnag, yn ei darluniau a’i dyfrlliwiau roedd Gwen John yn archwilio llawer o wahanol bynciau. Byddai’n aml yn darlunio ei hamgylchedd ac yn cael ei denu at natur, boed yn astudiaethau agos o flodau neu’n olygfeydd yr oedd yn eu mwynhau.