Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Gwelwn ddau ffigwr benywaidd, Lloegr a Ffrainc yn amddiffyn eu hunain rhag ymosodiad eryr du yr Almaen. Mae'r ddwy mewn gwisg ganoloesol, gyda Lloegr yn dadweinio"i chledd a Ffrainc yn sefyll i wynebu'r gelyn sy'n anrheithio paradwys braf y wlad.
Yn fab i argraffydd, aeth Jackson yn brentis i gwmni lithograffeg yn Leeds cyn mynd i astudio ym Mharis. Bu'n diwtor Darlunio yn Ysgol yr Academi Frenhinol rhwng 1921 a 1939 ac yn Bennaeth Ysgol Byam Shaw rhwng 1926 a 1940. Roedd yn aelod o Glwb Senefelder ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ef oedd yn gyfrifol am lithograffi propaganda ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth. Roedd yn allweddol i broject 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', ac yn ddolen gyswllt i'r holl artistiaid a gyfrannodd at y broses brintio.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,'gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.