Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Atebion manwl yn y Saesneg i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru o 1937 yn gofyn am wybodaeth ar ddiwylliant gwerin Cymru. Rhoddwyd y wybodaeth trwy law Arthur C. Hazzard a oedd yn Ysgrifennydd i'r Gymdeithas Archaeolegol yn Ysgol Uwchradd Tonypandy. Roedd y wybodaeth yn ymwneud ag ardal ddinesig y Rhondda ac yn benodol Ystradyfodwg a Llanwonno. Cofnodwyd wybodaeth ar fywyd cartref, bywyd corfforedig, bywyd diwyllianol a chrefft a diwydiant yr ardaloedd hyn.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.