Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Comisynwyd gwaith efydd Alfred Gilbert ym 1882 gan Frederic Leighton (yr Arglwydd Leighton wedi hynny), a gadawyd i'r cerflunydd ddewis ei bwnc. Dewisodd Icarws, mab chwedlonol y dyfeiswr Groegaidd, Daedalws. Rhoes ei dad adenydd a phlu o gwyr iddo, ond hedfanodd Icarws yn rhy agos i'r haul gan syrthio i'r ddaear ar ôl i'r cwyr doddi. Mae hwn yn dangos dylanwad amlwg Donatello ac mae'n un o weithiau efydd harddaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cydnabyddwyd safon eithriadol o uchel y gwaith gan yr Academi Frenhinol ym 1884 a bu'n gyfrwng i sefydlu Gilbert fel cerflunydd mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Defnyddiwyd Icarws yn aml i ymgorffori peryglon uchelgais yr ifainc ac ystyriai Gilbert fod y gwaith efydd yn fath o hunan bortread seicolegol. Mae hwn yn ddarn unigryw a gafodd ei gastio yn Napoli. Dywedai Gilbert mai hwn oedd ei hoff waith.