George Thomas Clark (1809-1898) oedd un o fawrion y diwydiant haearn yng Nghymru Oes Fictoria. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd rheilffyrdd, ac ym 1850, priododd Anne Price Lewis, un o ddisgynyddion partneriaid gwreiddiol gwaith haearn Dowlais. Clark oedd ysgutor ac ymddiriedolwr meistr haearn Dowlais, Syr John Josiah Guest, pan fu farw ym 1852, ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am reoli’r cwmni wedyn gyda chefnogaeth Charlotte, gweddw Guest. Cafodd y cwmni ail wynt, diolch i reolaeth ariannol ofalus, ailfuddsoddi ac arloesi sylweddol. Roedd gan Clark ddiddordeb brwd mewn hen bethau. Ysgrifennodd yn doreithiog am gestyll a hanes lleol hefyd. Ym 1865, prynodd blasty Tal-y-garn, ddwy filltir i’r de o Lantrisant. Cyfrannodd at y gwaith o ehangu ac addurno’r tŷ – yn seiliedig ar ei gynlluniau ei hun, gyda chymorth crefftwyr Eidalaidd tan gamp – hyd weddill ei oes. Cynhyrchodd Joseph Edwards, cerflunydd o Ferthyr Tudful, sawl portread o fawrion Cymru Oes Fictoria. - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

George Thomas Clark (1809-1898) oedd un o fawrion y diwydiant haearn yng Nghymru Oes Fictoria. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd rheilffyrdd, ac ym 1850, priododd Anne Price Lewis, un o ddisgynyddion partneriaid gwreiddiol gwaith haearn Dowlais. Clark oedd ysgutor ac ymddiriedolwr meistr haearn Dowlais, Syr John Josiah Guest, pan fu farw ym 1852, ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am reoli’r cwmni wedyn gyda chefnogaeth Charlotte, gweddw Guest. Cafodd y cwmni ail wynt, diolch i reolaeth ariannol ofalus, ailfuddsoddi ac arloesi sylweddol.

Roedd gan Clark ddiddordeb brwd mewn hen bethau. Ysgrifennodd yn doreithiog am gestyll a hanes lleol hefyd. Ym 1865, prynodd blasty Tal-y-garn, ddwy filltir i’r de o Lantrisant. Cyfrannodd at y gwaith o ehangu ac addurno’r tŷ – yn seiliedig ar ei gynlluniau ei hun, gyda chymorth crefftwyr Eidalaidd tan gamp – hyd weddill ei oes. Cynhyrchodd Joseph Edwards, cerflunydd o Ferthyr Tudful, sawl portread o fawrion Cymru Oes Fictoria.

EDWARDS, Joseph (Production)

George Thomas Clark (1809-1898) oedd un o fawrion y diwydiant haearn yng Nghymru Oes Fictoria. Dechreuodd ei yrfa fel peiriannydd rheilffyrdd, ac ym 1850, priododd Anne Price Lewis, un o ddisgynyddion partneriaid gwreiddiol gwaith haearn Dowlais. Clark oedd ysgutor ac ymddiriedolwr meistr haearn Dowlais, Syr John Josiah Guest, pan fu farw ym 1852, ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am reoli’r cwmni wedyn gyda chefnogaeth Charlotte, gweddw Guest. Cafodd y cwmni ail wynt, diolch i reolaeth ariannol ofalus, ailfuddsoddi ac arloesi sylweddol.

Roedd gan Clark ddiddordeb brwd mewn hen bethau. Ysgrifennodd yn doreithiog am gestyll a hanes lleol hefyd. Ym 1865, prynodd blasty Tal-y-garn, ddwy filltir i’r de o Lantrisant. Cyfrannodd at y gwaith o ehangu ac addurno’r tŷ – yn seiliedig ar ei gynlluniau ei hun, gyda chymorth crefftwyr Eidalaidd tan gamp – hyd weddill ei oes. Cynhyrchodd Joseph Edwards, cerflunydd o Ferthyr Tudful, sawl portread o fawrion Cymru Oes Fictoria.

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 29400

Creu/Cynhyrchu

EDWARDS, Joseph
1814-1882
Rôl: Sculptor
Rôl: Production
Lle: London, England
Cyfnod: 1874

Derbyniad

Gift, 4/8/2009

Deunydd

Marble

Lleoliad

In store

Categorïau

Cerflun | Sculpture Celf Gain | Fine Art Portread wedi'i Enwi DIWYDIANT A GWAITH Gwaith haearn Celf Fictorianaidd Cysylltiad Cymreig Diwydiannwr
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

[No title]

Artist: BRITISH SCHOOL, 19th century
(1830 ca)
NMW A 7888
Mwy am yr eitem hon
Celf

<p>Un llun yw hwn o grŵp o bortreadau a gomisiynwyd gan y diwydiannwr Francis Crawshay yn y 1830au. Mae pob un o’r gweithwyr – dynion i gyd – yn grefftwyr a gwŷr di-grefft o weithfeydd dur Hirwaun a gweithfeydd tunplat Trefforest. Peth anghyffredin oedd i un o gewri diwydiant gomisiynu portreadau unigol o’i weithwyr, ond nid diwydiannwr cyffredin oedd Francis Crawshay. Adeiladodd fwthyn bychan i’w hun yn hytrach na byw ym mhlasty’r teulu, a doedd dim diddordeb ganddo yn arferion busnes y Crawshays: cwynai ei dad ei fod yn gwario arian fel y dŵr. Ef oedd unig siaradwr Cymraeg y teulu, a byddai’n fwy tebygol i chi ei weld yn rhannu sgwrs gyda’i weithwyr nag yn eu gorchymyn. Enw hoffus y gweithwyr amdano oedd ‘Mr Frank’. Ddechrau’r 1830au cymerodd Francis yr awennau yng Gweithfeydd Dur Hirwaun, a brynwyd gan ei dad ym 1819, a’r gweithfeydd tunplat newydd yn Nhrefforest. Comisiynwyd portreadau’r gweithwyr oddeutu 1835, ac maent wedi’u priodoli i’r artist teithiol W J Chapman. Arhosodd y set ym meddiant y teulu Crawshay drwy ewyllys, ac mae’n bosib bod mwy yn wreiddiol – mae cofnod o un arall sydd bellach ar goll i bob tebyg.</p>

Artist: CHAPMAN, W. J. (attributed to)
(1835-1840)
NMW A 29941
Mwy am yr eitem hon
Celf

David Davies, Ffwrneisi, Hirwaun

Artist: CHAPMAN, W. J. (attributed to)
(1835-1840)
NMW A 29938
Mwy am yr eitem hon
Celf

David Davies, Llwythwr Cols, Hirwaun

Artist: CHAPMAN, W. J. (attributed to)
(1835-1840)
NMW A 29942
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯