Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Jar
"Jar gan Bernard Leach sydd ar y chwith yma. Ag yntau yn ei Grochendy yn St Ives yn Ionawr 1924 ysgrifennodd Leach at ei ewythr, Dr William Evans Hoyle oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Cymru; yn ei farn ef, hwn oedd y potyn slipwaith gorau a gynhyrchodd yn Lloegr. Roedd y motiff coeden a welir ar y ddwy ochr yn ffefryn gan Leach a’r rhiciau anniddig yn adlais o arddull ei yrfa flaenorol fel cerflunydd. Mwy na thebyg i’r brychau yn y grwnd gael ei greu â phen dolen brws bambw. Tra bod Leach ei hun yn disgrifio’r potyn fel ‘slipwaith Lloegr’ mae arddull yr addurn yn adlais o linellau glân a bywiog fâs crochenwaith caled Cizhou Tsieina llinach Song yr oedd Leach yn ei hedmygu.
Bu Leach yn brwydro drwy’r 1920au a’r 1930au i wneud bywoliaeth, ond gydag amser daeth yn grochenydd mwyaf dylanwadol y ganrif. Bu ei botiau, ei ysgrifennu a’i genhadu yn sbardun i genedlaethau o grochenyddion efelychu ei arddull Ddwyreiniol. Er taw crochenwaith dwyrain Asia – yn enwedig Tsieina llinach Song – oedd pinacl cerameg yn ei farn ef, canfu yn slipwaith Lloegr yr ail ganrif ar bymtheg arddull cyfatebol, gwirioneddol frodorol oedd yn deilwng o’i efelychu."
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.