Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Merch mewn Ffrog Las
Mae'r llun hwn yn un o gyfres o wyth o beintiadau o leiaf o'r un fodel, cymydog yn Meudon. Prynwyd hwn gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1935 am £20. Esboniodd yr arlunydd wrth ei ffrind Mary Anderson 'Roeddwn i eisiau arian felly fe ... anfonais [bum llun] ... i Loegr ... gwerthwyd un i amgueddfa ddarluniau ac fe gefais lythyr del iawn gan y cyfarwyddwr, felly nid oes arnaf angen arian ar y funud'. Mae'r llun yn llawn o lonyddwch, a gr'â'wyd i raddau trwy'r dewis o liw a thrwy ystum y ffigwr, ac yn rhannol gan ei thechneg. Mae'r paent mor sych, ac wedi ei ddefnyddio mor wastad, fel bod i'r ffigwr a'r cefndir yn union yr un ansawdd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.