Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Tynnais y llun yma, Y Cwpwl, yn haf '92. Roedd hynny'n amser maith yn ôl pan oedd pawb a phopeth yn dal i deimlo'n ddiddiwedd o ddiddorol a dirgel a phan mai ffotograffiaeth oedd yr unig ffordd y gallwn ymdrin â’r cyfan. Ro'n i wedi gadael Buenos Aires i dreulio'r haf yn Brooklyn gyda fy nhad-cu gan dreulio bob dydd yn crwydro'r ddinas yn tynnu lluniau ac yn brysio nôl adre gyda'r nos yn llawn cyffro i ddatblygu'r ffilm yn yr ystafell olchi oedd wedi’i throi’n ystafell dywyll. Dw i'n cofio'n glir pan wnes i ddatgelu’r ffilm wlyb yr oedd y ffrâm hon ynddi, ei gweld a chael fy syfrdanu sut y gallai portread fynd y tu hwnt i unrhyw beth yr oeddwn wedi'i weld neu ei fwriadu." — Alessandra Sanguinetti