Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rain, Mont Plaisant
Roedd Marquet am gyfnod byr yn gysylltiedig â'r mudiad Fauve, ac o 1905 byddai'n arbenigo fwyfwy ar olygfeydd o borthladdoedd ac afonydd, ac yn aml yn peintio o fannau uchel. Roedd yn peintio effeithiau dŵr yn arbennig o grefftus, fel y mae'r astudiaeth hon o dywydd gwlyb yn Algeria, lle bu'n byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn dangos. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies yn 1960.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.