Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Tynnais y llun yma yn 1965 yn Efrog Newydd pan oedd llawer o bobl yn protestio yn erbyn Rhyfel Fietnam trwy losgi eu cardiau drafft, ac roedd Burt Glinn, cyd-aelod Magnum, yn arfer tynnu fy nghoes drwy fy ngalw i’n 'Commie photographer'. Yr hyn sy’n ddoniol am hynny yw yr ymunodd mam ac ewythr Burt â'r Blaid Gomiwnyddol pan oedd e’n saith oed! Mewn gwirionedd, pan oedd Burt yn y fyddin, ni chafodd ei ddyrchafu, a phan holodd pam ei fod yn cael ei ddal yn ôl, dywedwyd wrtho fod hyn oherwydd ei gysylltiad Comiwnyddol ym 1932. Atebodd Burt, "Roeddwn i'n saith oed!" Cafodd y dyrchafiad." — Hiroji Kubota