Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Blancs
Ym 1948 gadawodd Simon Hantaï Budapest, oedd ym meddiant y Sofietaid, am Baris a dod dan ddylanwad y mudiad Swrealaidd. Buan y rhoddodd y gorau i gynrychiolaeth, o blaid gwaith haniaethol wedi'i yrru gan broses. Ym 1960 dechreuodd ei baentiadau pliage cyntaf, gan ddefnyddio'r dechneg o blygu, clymu, paentio, a datblygu'r cynfas i ddatblygu proses 'awtomatig', gan gynhyrchu paentiadau trawiadol a oedd yn cyfosod y deunydd noeth yn erbyn lliwiau llachar. Yn wyneb ei lwyddiant gyda'r dull hwn, ymneilltuodd o'r byd celf a rhoi'r gorau i baentio ym 1982. Yn 2003 rhoddodd gasgliad o'i waith i Ganolfan Pompidou, ac fe’u dangoswyd mewn arddangosfa drosolwg yno yn 2013.