Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Dechreuodd y gwaith hwn fel darlun a wnaethpwyd yn eglwys Meudon ac fe’i datblygwyd yn ddiweddarach yn y stiwdio. Byddai Gwen John yn eistedd yng nghefn yr eglwys yn braslunio ei chyd-blwyfolion. O ganlyniad mae llawer o’r gweithiau niferus hyn o’r 1910au i’r 1920au yn dangos ffigurau o’r tu ôl neu o’r ochr. Nid astudiaethau ar gyfer paentiadau olew yw’r rhain, ond gweithiau gorffenedig ynddyn nhw eu hunain.