Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cwpan te coffäol wedi'i addurno â llaw gyda rhosod, blodau a garlantau dail. Gyda'r arysgrif: 'Gott Strafe England' (Boed i Dduw gosbi Lloegr). Prynwyd gan David Evans yn yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn fyfyriwr yn Berlin ym 1914. Ar ôl methu â gadael y wlad, cafodd ei gaethiwo yng ngwersyll Ruhleben, lle cafodd yr enw 'Dai Deutsch' tan ddiwedd y rhyfel. Prynodd y cwpan fel cofrodd cyn cael ei ryddhau. Daeth yn Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn ddiweddarach.