Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Dioddefaint yn yr Ardd
Dyma Grist yn gweddïo yng Ngardd Gethsemane cyn ei arestio. Yng nghanol poen ei amheuaeth gwaeddodd Crist 'O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf'. Mae ei dalcen yn fyrlymau o chwys sy'n edrych fel gwaed. Mae'r allorlun hwn yn nodweddiadol o ddarluniau'r Gwrthddiwygiad Catholig. Yn y darn allor hwn gwelir y cwpan fel caregl yn cynnwys tair hoelen y Croeshoeliad, sy'n cysylltu dioddefaint Crist â'r offeren. Llysenw'r arlunydd oedd 'il Guercino' - y gŵr llygatgroes - sy'n deillio o anaf a gafodd i"w lygaid mewn damwain pan oedd yn blentyn. Fe'i ganed yn Cento ac ymwelodd â Rhufain ym 1621-23 gan symud i Bologna ym 1642 a sefydlu ei hun yn fuan iawn yn un o'r prif arlunwyr yno.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.