Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yn raddol disodlwyd yr injan biston gan injan jet ac injan jet Rolls-Royce Conway, a argyweiriwyd yn Nhrefforest yw enghraifft. Ar ôl i’w dyddiau gwaith ddod i ben fe’i datgymalwyd a’i hadfer ar gyfer ei harddangos gan brentisiaid British Airways yn Nhrefforest. Defnyddid y math hwn o injan gan mwyaf mewn awyrennau teithwyr Vickers VC-10 ac fe allai gyrraedd 8000 marchnerth wrth godi o’r ddaear. Mae hi’n injan lawer symlach a mwy dibynadwy nag injan biston. Pan ddechreuodd y Conway wasanaethu hi oedd y gyntaf o genhedlaeth newydd o awyrennau jet oedd yn cynnig mwy o gynildeb tanwydd.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984