Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r Forwyn Fair yn edrych i lawr yn annwyl ar ei mab, gan gwpanu ei droed yn ei llaw mewn ystum cariadus. Mae'r diwnig goch draddodiadol yn cynrychioli gwyryfdod Mair, a'r fantell las yn gyfeiriad at famolaeth. Roedd Cima yn un o brif arlunwyr Fenis ar droad y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg. Datblygodd arddull bersonol yn seiliedig ar Giovanni Bellini, ac o'i waith ef y daw motiffau y canllaw marmor gyda llofnod yr arlunydd ar ddarn o bapur, a'r marchog bychan Twrcaidd yn y cefndir. Gwnaed y llun hwn tua 1500 ac y mae'n un o gyfres o luniau madonna hanner uchder gan yr arlunydd ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i waith.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.