Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mynd â’r gynulleidfa ar daith mae Eija-Liisa Ahtila yn ei gwaith Yr Awr Weddi. Mae’r gwaith yn adrodd hanes y broses alaru, o’i dechrau yng nghanol storm Ionawr yn Efrog Newydd i’w diwedd yn Benin, Gorllewin Affrica ymhen un mis ar ddeg. Mae’r gwaith wedi’i seilio ar fywyd personol Eija-Liisa.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.