Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri'n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu'n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.
Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i'r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna'r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe'i urddwyd yn farchog ym 1927.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.