Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bwrdd gyda Chiwbiau
NASH, David (b. 1945)
Bu Nash yn astudio yn Kingston, Brighton a Chelsea ac mae'n byw ym Mlaenau Ffestiniog ers 1967. Dechreuodd y gwaith hwn gyda chyfres o gerfiadau bach haniaethol wedi eu torri'n arw â bwyell. Meddai'r arlunydd: 'Roedd yr holltau'n mynd â'm bryd. Roedd y bwlch du yn yr hollt yn rhoi mwy o wybodaeth am gyfaint y gwrthrych a syniad am ei du mewn. Cymhwysais hynny at adeiladwaith geometrig ciwb a'r bwlch yn yr ymylon yn creu llinell ddu o gwmpas y gwrthrych. Tyfodd y bwrdd fel ffordd o gyflwyno'r ciwbiau.'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.