Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Perseus a'r Graiae
Mae'r darn rhyfeddol hwn yn troedio'r ffin rhwng llun a cherflun, a dyma ganolbwynt un o weithiau traethiadol mwyaf uchelgeisiol Burne-Jones. Mae'r darn yma'n adrodd hanes yr arwr Groegaidd Persews, a laddodd y gorgon Medwsa. Lluniau olew oedd chwech o'r deg golygfa, a phaneli cerfwedd isleoedd y gweddill.
Roedd ar Persews angen cymorth y Graiae, tair chwaer â dim ond un llygad ac un dant rhyngddynt, i ddod o hyd i Medwsa. Cymrodd Persews y llygad wrth i'r tair chwaer ei basio o un i'r llall, a'u gorfodi i ddangos y ffordd iddo. Mae'n sefyll yn y canol â'r tair chwaer yn eu cwrcwd wrth ei draed. Uwch ei ben, mae'r arysgrif Lladin sy'n adrodd yr hanes.
Bu Burne-Jones yn cydweithio â'i gynorthwywyr stiwdio a'r arbenigwr plaster Paris, Osmund Weeks, i greu'r panel hwn. Ond ni chafodd y panel fawr o groeso wrth ei arddangos yn Oriel Grosvenor ym 1878. Rhoddodd Burne-jones y gorau i weithio ar y paneli cerfwedd isleeraill.