Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Un o arloeswyr arddull y Dadeni Gothig Fictoriadd oedd Pugin. Credai taw gonestrwydd moesol oedd defnyddio dulliau adeiladu oedd yn addas at y defnydd, ac y dylai'r gwaith adeiladu fod yn amlwg. Ym 1850 defnyddiodd bâr o frasluniau cyferbyniol i bwysleisio hyn. Roedd un braslun yn dangos yr uniad tyno danheddog a ddefnyddiwyd yn y gadair hon, dan y label "yr hen uniad". Ar y llaw arall, fe labelodd fraslun o bot glud fel "yr uniad modern". Mae llun o arfbais Pugin wedi"i baentio ar gefn y gadair, un o set o bedwar a ddyluniodd ar gyfer ei gartref, The Grange yn Ramsgate.