Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r ffotograff hwn yn un o'r delweddau mwyaf eiconig o America yn ystod y Dirwasgiad Mawr ac mae'n cynrychioli'r foment gyntaf y symudodd Dorothea Lange ei chamera o'r stiwdio i'r stryd. Tynnwyd y llun yn 1933, ac mae'n delweddu dynion di-waith yn sefyll y tu allan i gegin gawl mewn ardal o San Francisco o'r enw White Angel Jungle. Mae’r anobaith a fynegir gan y dyn yng nghanol y ddelwedd yn amlwg wrth iddo bwyso dros gwpan tun gwag, a’i wyneb wedi’i guddio gan ei het. Er i’r ffotograff hwn gael ei dynnu yn ystod y tridegau cynnar, a oes yna elfennau sy’n teimlo’n gyfarwydd i dirwedd economaidd-gymdeithasol heddiw?