Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cerdyn post gan yr Asiantaeth Carcharorion Ryngwladol yng Ngenefa, yn hysbysu Eli Evans eu bod wedi derbyn ei lythyr ac y byddant yn gwneud popeth posibl i ddarganfod ble mae ei fab.
Brodor o Gaerdydd oedd yr Is-lefftenant Arthur Wellesley Rees Evans (1898 – 1965) a ymunodd â’r Corfflu Hedfan Brenhinol ym mis Awst 1917. Diflannodd ar 21 Hydref 1918, tra’n hedfan i Köln gyda’r Lefftenant R. W. L. Thomson yn goruchwylio. Cafodd ei ddal a’i garcharu yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn yr Almaen. Derbyniodd ei dad, Eli Evans, nifer o lythyron am ei ddiflaniad. Dychwelodd Wellesley i Gaerdydd ar 10 Rhagfyr 1918.