Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Moret-sur-Loing (Rue des Fossés)
Mae’r paentiad hwn o 1892 yn dangos golygfa o’r Rue des Fosses ym Moret-sur-Loing – tref ganoloesol heddychlon tua 50 milltir i’r de-ddwyrain o Baris. Ymwelodd Sisley â’r ardal am y tro cyntaf ym 1879, a chwympo mewn cariad â’r lle. Ym 1892, ysgrifennodd ‘yn ddi-os, ym Moret mae fy nghelf wedi datblygu fwyaf... Wna i byth wir adael y lle bach hwn sydd mor ddarluniadwy.’ Dyna oedd prif ysbrydoliaeth ei baentiadau yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd.
Yn yr olygfa hon o’r stryd, mae Sisley yn chwarae gyda’n synnwyr o bersbectif; o’i olygfan isel, sef gofod caeedig iard ysgol, mae’n edrych drwy’r gatiau agored at y strydoedd y tu hwnt. Mae’r lliwiau’n ail-greu cysgodion hir a golau lliw rhosyn bore braf o hydref. Roedd Sisley’n hoff o gyfleu ymdeimlad o weithgarwch yn ei waith, ac yma mae menyw gyda phlentyn yn dynesu i ddechrau’r diwrnod ysgol, ond caiff eu presenoldeb ei gysgodi’n rhannol gan yr adeiladau a’r coed tal sy’n flaenllaw yn yr olygfa.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.