Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cerbyd Trydydd-dosbarth
Er mai ychydig iawn o fanylion sydd yn y braslun olew brysiog hwn, mae'n llawn mynegiant. Mae Daumier yn llwyddo i gyfleu anesmwythder y cerbyd gorlawn, ac yn awgrymu cymeriad y teithwyr trwy'u gwisgoedd a'u hosgo. Roedd gwaith Daumier yn ymdrin â materion dosbarth cymdeithasol yn aml, a'r cerbyd trydydd dosbarth oedd un o'i hoff themâu ar ddechrau'r 1860au. Mae fersiynau mwy cyflawn a gorffenedig o'r testun hwn ar gael hefyd.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales