Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Sefydlodd Richard Hoare Jenkins (1777-1856), sydd yma ar gefn ceffyl yn wynebu'r dde yng nghanol y llun, haid o fytheiaid yn Nhŷ Llanharan, Morgannwg, ym 1804. Magai gŵn ag iddynt farciau arbennig, rhai o faint eithriadol ac yn aml bron yn wyn o ran lliw. Yr haid oedd un o'r cyntaf i gael eu bwydo ar fisgedi. O dan y 'Sgweiar' Jenkins, 'y bonheddwr gwlad delfrydol', a John Harry ei heliwr, sydd yma yn y canol ar y dde mewn het hela, rhoddai'r haid bleser dibaid i'r helwyr o Bort Talbot i Gaerdydd. Ni wyddom ddim am yr arlunydd heblaw iddo beintio dau lun arall yn gysylltiedig â'r helfa sydd wedi eu llofnodi a'u dyddio 1837.