Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Robert Davies of Gwysaney (1616-1666)
LEIGH, Thomas (operative 1635-1643)
Dyma Robert Davies Gwysaney wedi'i wisgo fel bonheddwr yn ei grysbais aur a'i goler lydan. Ef oedd Uchel Siryf Sir y Fflint, ac fel y rhan fwyaf o uchelwyr Cymru, roedd yn Frenhinwr yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn ystod y flwyddyn pan eisteddodd ar gyfer y portread, edwinodd y gefnogaeth i'r Brenin yn y gogledd-ddwyrain. Ond dwy flynedd yn ddiweddarach, torrodd Seneddwyr ddrws blaen ei gartref i lawr a rhoi Robert yn y carchar am iddo gefnogi'r frenhiniaeth.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.