Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Tynnwyd y llun yma yn 1981 yn Daytona Beach, Florida, yn ystod Gwyliau’r Gwanwyn mewn man lle mae myfyrwyr coleg yn hoff o ymgynnull - un o byllau nofio mawr y gwestai mawr ar lan y môr. Fel mae’n digwydd, roeddwn i yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ymddangosodd y ddau fachgen yma ar y bwrdd deifio wedi'u lapio yn eu tywelion, gan eu tynnu yn sydyn a datgelu'r ffaith nad oedd ganddynt wisg nofio amdanynt. Sgrechiodd y dorf ar ochr y pwll yn eu mwynhad a neidiodd y bechgyn i'r dŵr. Dyma un o'r rhyfeddodau gwych am ffotograffiaeth, eich bod yn gallu ac yn barod i glicio'r botwm a dal eiliad swynol na welwyd erioed o'r blaen ac na fydd byth yn cael ei gweld eto. Nid yw'r llun erioed wedi cael ei gyhoeddi, ac felly, i raddau, does neb wedi’i weld tan nawr." — Constantine Manos