Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug 1873. Mae’n enghraifft gynnar o’r math o gadair a ddaeth yn boblogaidd wedi hynny. Arni mae draig herodrol, telyn, uchelwydd, dail y dderwen a mes. Mae’r llythrennu cerfiedig yn cynnwys enw’r enillydd a’r lleoliad ynghyd â’r ymadroddion traddodiadol: ‘Goreu Arv: Arv Dysg’; ‘Yn Nawdd Duw a’i Hedd’; ‘Iaith Enaid ar ei Thannau’; ag arwyddair yr Orsedd ‘Y Gwir yn Erbyn y Byd’. Ar grib y gadair mae’r Nod Cyfrin neu’r 'pelydr goleuni', symbol yr Orsedd a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Hwfa Môn (Rowland Williams) gipiodd y gadair. Enillodd sawl cadair a choron eisteddfodol yn ogystal â beirniadu'r cystadlaethau. Roedd ganddo gryn bresenoldeb wrth areithio ac etholwyd ef yn Archdderwydd o 1895 hyd ei farw ym 1905.