Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Vase
Y fâs haniaethol hon, ar siâp rhaw ac wedi’i chreu o wahanol ddarnau wedi’u troi ar olwyn, yw un o ffurfiau cyfansawdd mwyaf pwerus Coper. Ysbrydolwyd Coper i greu gwaith ar siâp rhaw am y tro cyntaf ym 1966 a byddai’n parhau i ddatblygu’r syniad am ddegawd. Mae’n ffurf twyllodrus o syml sy’n deillio o ddiddordeb Coper yng ngherfluniau hynafol yr Aifft, Mycenae a Cyclades. Caiff y ffurf ei ategu gan effeithiau arwyneb cynnil a gynhyrchir drwy ychwanegu a rhuglio slipiau du afloyw a gwyn hufennog. Doedd Coper bydd yn ystyried taw ‘cerfluniau’ oedd ei waith, ond daeth yn un o grochenyddion gorau’r 20fed ganrif diolch i bwer cerfluniol ei waith cerameg.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.