Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cwmparc Colliery haulage steam engine
Am y rhan orau o gan mlynedd, oddi ar ddatblygiad yr injan drawst yn 1712, cynlluniwyd bron pob injan gyda silindrau ferigol. Yn nes ymlaen bu newid sydyn i rai llorweddol, gan wneud i ffwrdd â’r trawst anferth. Roedd yr injan stêm lorweddol, fel yr un a ddangosir yma, ac a ddefnyddid yn helaeth iawn mewn diwydiant, yn gryf, yn rhwydd i’w gweithio ac yn gymharol hawdd i’w hadeiladu.
Adeiladwyd injan yr Amgueddfa gan Llewellyn a Cubbit o’r Pentre, Rhondda, tua 1870. Fe’i defnyddiwyd i dynnu dramiau llawn o sbwriel o ben y pwll yng Nghwm-parc, Rhondda, i’r tip ar ochr y bryn uwchlaw’r pwll. Defnyddid rhai tebyg dan ddaear ar gyfer tynnu dramiau llawn o lo at waelod y siafft. Nes i Ddeddf Llafur y Plant gael ei phasio yn 1842 roedd plant a menywod yn cael eu cyflogi yn y pyllau i wneud y math yma o waith. Er hynny, rhaid oedd aros am ddeng mlynedd arall cyn i ddulliau mecanyddol, neu ferlod, ddisodli’r menywod a’r plant ym gyfan gwbl.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984