Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cerflun Hirgrwn (Delos)
Ysbrydolwyd gwaith cerfluniol Barbara Hepworth yn drwm gan y dirwedd o’i chwmpas a’i lle ynddi. Roedd ganddi ddiddordeb yn siâp a chymeriad arfordiroedd a nodweddion daearyddol eraill, gan gerfio gweithiau pren i gyflawni ei ffurfiau telynegol, organig. Gan dynnu ysbrydoliaeth o Wlad Groeg, cerfiodd sawl cerflun gyda theitlau Groegaidd. Delos yw safle ogof Apollo a hefyd yr ynys y mae'r Cyclades yn gorwedd o'i chwmpas ar ffurf hirgrwn.