Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Medal
medal a wobrwywyd i aelodau o garfan tîm pêl-droed Chwarel Penrhyn, pencampwyr ‘Cynghrair Pêl-droed Cymru Adran y Gogledd (Adran 1)’ yn ystod tymor 1947-48. Cafodd aelodau’r garfan fedal i gydnabod eu llwyddiant. Perchennog y fedal yma oedd William Kitchener Roberts (a oedd yn cael ei adnabod fel ‘Kitch’). Credir mai William Kitchener Roberts oedd capten y tîm. Roedd William Kitchener Roberts, fel nifer o aelodau ei deulu, yn gweithio am gyfnod yn Chwarel Penrhyn.
Mae’r fedal wedi'i gwneud o arian (wedi ei stampio/hallmarked: angor (Birmingham) / llew (arian) / Y (1948) ) ac mae ganddi ddelwedd o ddraig goch wedi ei wneud o enamel ar ei chanol.