Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Dyma baentiad o Ystrad yng nghwm Rhondda. Cafodd Ernest Zobole ei eni yn y pentref a pharhaodd i gael ei ysbrydoli gan yr ardal am weddill ei oes. Mae’r tri ffigwr yng nghanol y paentiad wedi’u hadnabod fel yr arlunydd, ei wraig Christine a’u mab ifanc Manuel. Tra bod y rhan fwyaf o’i gyfoedion yn canolbwyntio ar realaeth hagr, roedd Zobole yn aml yn datgelu dirgelwch arall-fydol yn ei amgylchedd uniongyrchol.