Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r ddesg hon yn un o nifer o weithiau a ddyluniwyd gan Seddon i’w harddangos yn yr Arddangosfa Ryngwladol yn Llundain ym 1862 ac roedd yn un o’r prif weithiau yn y Llys Canoloesol, a drefnwyd gan gyfaill Seddon, y pensaer William Burges. Ni fu Burges yn hael ei ganmoliaeth wrth gymharu’r ddesg â’r celfi lliwgar eraill yn y Llys Canoloesol. Dywed fod Seddon yn argaenu lliw, a bod y celfi, o ganlyniad i’r dewis o ddeunydd, yn llai tebygol o gael eu niweidio nag eraill. Fodd bynnag, tra bod gweithiau Seddon a Pritchard (ei bartner busnes) oedd â phaneli ffigwr wedi’u paentio yn edrych yn dda, doedd y bwrdd ysgrifennu bach, lle defnyddir argaenu yn unig, ddim yn cyrraedd yr uchelfannau hynny.