Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Plate
Crëwyd y plât hwn gyda saith ‘stribyn’ neu ‘resen’ o lechfaen o ogledd Cymru ac UDA. Daw’r llechi Cymreig o chwareli’r Penrhyn, Llechwedd, Corris, Ffestiniog, a Dyffryn Nantlle, a llechi ‘American Red’ ac ‘Unfading Green’ yw’r rhai Americanaidd. Mae’r plât yn un o bâr a gomisiynwyd gan Amgueddfa Lechi Cymru i nodi achlysur gefeillio â Slate Valley Museum, Granville, UDA, ym Mai 2007. Creodd Mr Rice dau blât union yr un fath, a chyflwynwyd y llall i’r Slate Valley Museum.