Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Rowland Williams neu 'Hwfa Môn' enillodd y gadair hon yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1878. Enillodd sawl cadair a choron yn ogystal â beirniadu'r cystadlaethau. Roedd ganddo gryn bresenoldeb wrth arethio ac etholwyd ef yn Archdderwydd o 1895 hyd ei farw ym 1905. 'Cadair Arthur' oedd yr enw a roddwyd ar gadair Eisteddfod Penbedw 1878. Credir mai dylanwad Urdd y Ford Gron oedd tu ôl i'r enw. Ceisiodd yr Urdd roi trefn ar yr Eisteddfod mewn cyfnod digon anrhefnus yn ei hanes.