Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bull's Head
Yn aml mae Ackroyd a Harvey yn defnyddio glaswellt yn eu gwaith i archwilio pynciau am drawsffurfiad. Mae’r gwrthdaro rhwng grymoedd naturiol tyfiant a dirywiad a gweithredoedd pobl, sy’n rheoli ac yn ymyrryd ar fyd natur, yn thema gyson yn eu gwaith. Yn Bull’s Head mae’r glaswellt, yn llythrennol, yn rhoi bywyd i’r ddelwedd. Mae’n gweithredu fel drych sy’n adlewyrchu popeth, gan ein hatgoffa o’r pethau sy’n gorwedd y tu ôl i strwythurau concrit a dur bywyd dinesig.