Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r portread hyn yn dangos Williams fel dramodydd. Ganed Williams ym Mostyn, Sir y Fflint a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf ym 1927, ond daeth yn llwyddiannus dros nos gyda Night Must Fall (1935), drama gyffrous a ysgrifennwyd ganddo ac y bu’n serennu ynddi. Ymddangosodd Williams hefyd mewn llu o ffilmiau a dramâu radio. Mae ei sioeau llenyddol un dyn, genre theatraidd a ddyfeisiodd ei hun i raddau helaeth, wedi dod yn chwedlonol. Cafodd Williams ei gydnabod yn gyhoeddus fel dyn deurywiol cyn llawer o’i gyfoeswyr, ac ysgrifennodd yn agored am ei rywioldeb yn ei ddau hunangofiant.