Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Alfred Sisley oedd yr unig artist argraffiadol blaenllaw a baentiodd yng Nghymru. Fe deithiodd yma gyda’i bartner hirdymor, Eugénie Lescouezec – erbyn 1897 roedd iechyd y ddau yn dirywio, a daethant i Brydain i briodi’n dawel a chyfreithloni eu plant. Treuliodd y pâr yr haf yn ne Cymru, gan aros ym Mhenarth cyn mynd ar eu mis mêl i Fae Langland. Ym Mhenarth dyma nhw’n aros gyda masnachwraig glo o’r enw Mrs Thomas. Mewn llythyr at y beirniad Gustave Geffroy, dywedodd Sisley fod ‘y wlad yn brydferth a’r Ffyrdd, gyda’r llongau mawr yn hwilio i mewn ac allan o Gaerdydd, yn rhagorol’. Ond fe gwynai hefyd fod y gwelyau’n anghyffordus a’r tywydd yn rhy boeth! Cynhyrchodd Sisley chwe paentiad ar ei arhosiad byr ym Mhenarth, gan astudio gwahanol dywydd ac effeithiau golau tra’n gweithio ar sawl cynfas ar y tro. Paentiwyd yr olygfa hon o’r llwybr ar ben y clogwyn sy’n cysylltu Penarth a Larnog, lle profodd y dyfeisiwr Guglielmo Marconi y signal radio cyntaf ychydig fisoedd ynghynt. Yn ogystal ag esiampl o dirlun Cymru drwy lygaid Argraffiadwr, dyma un o’r morluniau prin gan Sisley sydd wedi goroesi, a’r olygfa gyntaf o Gymru ganddo i gael ei chaffael gan gasgliad cenedlaethol ym Mhrydain.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.