Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Lliain bwrdd cotwm gwyn gydag ymylon wedi'u crosio. Brodwaith edau cotwm gwyn gyda llofnodion staff a chleifion Ysbyty Ryfel Fetropolitan Cymru ym 1917. Cafodd Ysbyty Meddwl Dinas Caerdydd ei ddefnyddio gan y fyddin rhwng 1915 a 1919, a'i hailenwi'n Ysbyty Ryfel Fetropolitan Cymru.
Mae'r llofnodion sydd wedi'u brodio ar y lliain bwrdd yn cynnwys yr Is-gyrnol Edwin Goodall (cyn-Brif Swyddog Meddygol yr ysbyty a listiodd gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn ystod y rhyfel) a Matron Florence Raynes oedd yn gyfrifol am y staff nyrsio.